Mandrakelinux

          Cyfarwyddiadau Gosod - Mandrakelinux 10.2

  Ffurfweddiad Angenrheidiol
    * Prosesydd Pentium neu gyfatebol
    * Gyrrwr CDROM
    * O leiaf 32 MB RAM, argymhellir 64 MB

  Mae gosod Mandrakelinux, yn y rhan fwyaf o achosion mor syml â
  rhoi eich CD Gosod yn eich gyrrwr CDROM, ac ail gychwyn eich
  peiriant. Darllenwch bwynt 1.

  SYLW:

   * Os ydych yn uwchraddio o fersiynau Mandrakelinux 7.x,
     8.x neu 9.x peidiwch anghofio a gwneud copi o'ch system
     wrth gefn.
   * NID oes cefnogaeth i uwchraddio fersiynau cynt (cyn 7.0).
     Yn yr achosion hynny, gwnewch osodiad newydd ac nid uwchraddio.

============================================================================

  Dyma ffyrdd gwahanol i osod Mandrakelinux:

   1. Cychwyn yn syth o'r CD
   2. Gwneud disg cychwyn gyda Windows
   3. Dulliau eraill o osod

============================================================================

 1. Cychwyn yn syth o'r CD

  Mae modd cychwyn y gosodiad drwy'r CDROM Gosod. Yn yr rhan fwyaf o
  achosion, rhowch y CD yn y gyrrwr ac ail gychwyn y peiriant.
  Dilynwch y cyfarwyddid ar y sgrin: pwyswch [Enter] i gychwyn gosod,
  neu [F1] am gymorth pellach.

  SYLW:

  Ar rai cyfrifiaduron symudol, efallai na fydd y system yn ailgychwyn
  o'r CD. Os mae hyn yn digwydd, ceisiwch gychwyn o'r ail CD: mae modd
  cychwyn o hwnnw hefyd, ac mae'n defnyddio trefn 'mwy diogel'. Pan fydd
  yn gofyn amdano, newidiwch yr CD. Os nad yw'r ail CD yn cychwyn chwaith,
  dylech baratoi disg cychwyn.  Gweler pwynt 2 am fanylion.

============================================================================

 2. Gwneud disg cychwyn gyda Windows

  Os nad yw eich cyfrifiadur yn medru cychwyn gyda'r CDROM
  ac ni wnaeth y dulliau blaenorol weithio, rhaid i chi wneud disg
  cychwyn gyda Windows.
  Dyma sut mae gwneud:

   * rhowch y CDROM yn y gyrrwr, cliciwch ar eicon "My Computer",
     clic de ar eicon gyrrwr y CD a dewis "Open"
   * mynd i gyfeiriadur "dosutils" a rhoi clic dwbl
     ar eicon "rawwritewin"
   * rhowch ddisg meddal gwag yn ei yrrwr
   * dewiswch "D:\images\cdrom.img" ym maes "Image File"
     (gan gymryd mae "D" yw eich CDROM, neu newidiwch ef yn ôl y galw)
   * dewiswch "A:" ym maes "Floppy Drive" ac yna clicio "Write".

  I gychwyn y gosodiad:

   * rhoi'r CDROM yn y gyrrwr, yn ogystal â'r disg cychwyn, ac yna
   * ail gychwyn y cyfrifiadur.

============================================================================

 3. Dulliau eraill o osod

  Os am unrhyw reswm nid yw'r dulliau blaenorol yn ateb eich angen
  (rydych am wneud gosodiad rhwydwaith, gosod o ddyfais pcmcia neu...),
  bydd angen i chi hefyd wneud disg cychwyn:

   * O dan Linux (neu unrhyw system UNIX fodern) teipiwch wrth
     yr anogwr:
     $ dd if=xxxxx.img of=/dev/fd0
   * O dan Windows, dilynwch y dull disgrifiwyd ym mhwynt 2,
     ond gan ddefnyddio xxxxx.img (gweler isod) yn lle cdrom.img.
   * O dan DOS, gan gymryd mai D yw gyrrwr eich CD, teipiwch:
     D:\> dosutils\rawrite.exe -f install\images\xxxxx.img -d A

  Lle mae xxxxx.img yn un o'r delweddau cychwyn:

 +-----------------+------------------------------------------------------+
 | cdrom.img       | gosod o'r CD-ROM                                     |
 +-----------------+------------------------------------------------------+
 | hd_grub.img     | gosod o'r disg caled (system ffeilio Linux,          |
 |                 | Windows, neu ReiserFS filesystem)                    |
 |                 | gallwch ei ffurfweddu ar gyfer eich system yn:       |
 |                 | http://qa.mandrakesoft.com/hd_grub.cgi               |
 +-----------------+------------------------------------------------------+
 | network.img     | gosod o ftp/nfs/http                                 |
 |                 | SYLW: bydd angen mewnosod network_drivers.img        |
 |                 | yn yrrwr eich disg meddal pan fydd cais              |
 +-----------------+------------------------------------------------------+
 | pcmcia.img      | gosod o ddyfeisiau pcmcia (rhybudd, mae' rhan fwyaf  |
 |                 | o addaswyr rhwydwaith pcmcia yn cael eu cynnal       |
 |                 | gan network.img)                                     |
 +-----------------+------------------------------------------------------+

  Gallwch hefyd losgi boot.iso ar CDROM a chychwyn ohono.
  Mae'n cynnal pob dull gosod, cdrom, rhwydwaith a disg caled.

============================================================================

  Mae modd ii chi hefyd ddefnyddio'r modd testun i osod os
  ydych yn cael anhawster, am ryw reswm, gyda'r gosod graffigol
  rhagosodedig. I'w ddefnyddio pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu
  Mandrakelinux, ac yna teipiwch text wrth yr anogwr.

  Os fyddwch byth angen achub eich system Mandrakelinux,
  rhowch eich CDROM Gosod (neu'r disg cychwyn perthnasol) yn y peiriant,
  pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu Mandrakelinux, ac yna
  teipiwch rescue wrth yr anogwr.

  Gweler http://www.mandrakelinux.com/drakx/README
  am ragor o wybodaeth dechnegol.

============================================================================

 Prif gamau'r gosodiad:

  1. Rhowch eich CDROM Gosod neu (neu ddisg cychwyn, yn ôl y galw) ac
     ail gychwyn eich peiriant.
  2. Pwyswch [Enter] pan fydd sgrin croesawu Mandrakelinux yn
     ymddangos a dilynwch y cyfarwyddiadau'n ofalus.
  3. Pan fydd y gosodiad wedi ei gwblhau tynnwch y CD o'r peiriant pan
     fydd wedi cael ei fwrw allan (ac unrhyw ddisg meddal os yw'n
     y gyrrwr); bydd eich peiriant yn ail gychwyn. Os nad, cychwynnwch
     y peiriant gyda llaw.
  4. Bydd Mandrakelinux yn cychwyn. Ar ôl iddo gychwyn bydd
     modd i chi fewngofnodi o dan eich enw eich cyfrif
     neu fel "gwraidd" (root).

  Nodyn pwysig:

  Mae'r cyfrif "gwraidd" ("root") yn rhoi mynediad dilyffethair i'ch system
  Linux. Peidiwch â'i ddefnyddio oni bai eich bod eisiau ffurfweddu neu
  weinyddu Linux. Ar gyfer defnydd bob dydd. Mae modd ffurfweddu'r cyfrif
  gyda "userdrake", neu gyda gorchmynion "adduser" a "passwd".

                    Pob hwyl gyda Mandrakelinux!

============================================================================

  Am gefnogaeth gyda'r gosod, gweler rhestr wybodaeth Mandrakelinux
  a'r FAQs ar safle gwe:

   * E-Gymorth yn http://www.mandrakeexpert.com/
   * Mandrakelinux Errata yn
     http://www.mandrakelinux.com/en/errata.php3
   * Mandrakelinux Security Advisories yn
     http://www.mandrakesoft.com/security/advisories/
   * Dogfennau Ar-lein yn http://www.mandrakelinux.com/en/fdoc.php3
   * Darllen ac ymuno gyda Fforymau Trafod Mandrakeclub yn
     http://www.mandrakeclub.com
   * Ymuno â'r Rhestrau E-hebu yn
     http://www.mandrakelinux.com/en/flists.php3
   * Archifau Chwiliadwy E-bostio yn at
     http://marc.theaimsgroup.com/
   * Chwilio'r Rhyngrwyd gan ddefnyddio Google yn
     http://www.google.com/linux
   * Chwilio Usenet Groups gan ddefnyddio Grwpiau Google yn
     http://groups.google.com/groups?group=comp

============================================================================